Lleoliad:
Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 15 Chwefror 2022
Amser:
09.02 -
09.55
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Darren Millar AS Siân Gwenllian AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y bydd y Llywydd yn arwain teyrngedau i Aled Roberts ar ddechrau'r Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth gyda'r Prif Weinidog a chynrychiolwyr y pleidiau yn cael eu galw i wneud cyfraniadau.
Dydd Mercher
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mercher 1 Mawrth 2022 -
Dydd Mawrth 8 Mawrth 2022 -
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 2 Mawrth 2022 -
Dydd Mercher 9 Mawrth 2022 -
Dydd Mercher 16 Mawrth 2022 -
Fformat y Cyfarfod Llawn
Trafododd y Pwyllgor Busnes y trefniadau ar gyfer y Cyfarfod Llawn ar ôl toriad hanner tymor mis Chwefror ac ystyriodd Asesiad Risg wedi'i ddiweddaru. Ar ôl ystyried barn grwpiau pleidiau a mesurau i liniaru risgiau, penderfynodd y Llywydd y gallai pob un o'r 60 Aelod fod yn y Siambr yn bersonol ar unrhyw adeg o 1 Mawrth ymlaen. Roedd hyn yn unol ag arwydd gan y Prif Weinidog o lacio nifer o gyfyngiadau eraill ddiwedd mis Chwefror. Byddai cyfranogiad rhithwir a phleidleisio electronig yn parhau fel y gallai Aelodau barhau i gymryd rhan o bell.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai'r Aelodau'n cael eu cynghori'n gryf i wisgo masgiau wyneb yn y Siambr ac eithrio wrth wneud cyfraniad. Gofynnodd y Llywydd i'r Aelodau gael gwybod mai dyna oedd ei disgwyliad hi. Dylai pob Aelod hefyd gymryd prawf llif unffordd cyn bod yn bresennol yn bersonol.
4 Amserlen y Pwyllgorau
4.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y cais am slot cyfarfod ychwanegol.
4.2 Adolygiad o amserlen y pwyllgorau a chylchoedd gwaith y pwyllgorau
Ystyriodd y Pwyllgor Busnes ganlyniad ei ymgynghoriad â phwyllgorau ac aelodau'r pwyllgorau ynghylch amserlen a chylchoedd gwaith y pwyllgorau, a diwygiadau arfaethedig i amserlen y pwyllgorau.
Cytunwyd y dylid ymgynghori â Fforwm y Cadeiryddion ynghylch yr amserlen arfaethedig a'r amserlen ar gyfer gweithredu yn ei gyfarfod ar 17 Chwefror. Cytunodd y Rheolwyr Busnes hefyd i ymgynghori â'u grwpiau ac i ystyried cynnig terfynol ar ôl y toriad hanner tymor.
5 Unrhyw faterion eraill
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir)
Ar gynnig y Trefnydd, cytunodd y Pwyllgor Busnes i adolygu'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar gyfer y Memorandwm Atodol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) o 3 Mawrth i 17 Mawrth.